Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd heddiw,  26 Chwefror i helpu cymunedau i ddod â natur at ‘garreg eich drws’ ac atal a gwyrdroi’r dirywiad ym myd natur.

Mae pecynnau Dechrau a Datblygu Cadwch Gymru’n Daclus yn rhan o gronfa £5m ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur ar ‘garreg eich drws’.

Y gobaith yw y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn ei gwneud hi’n hawdd i unrhyw grŵp greu ‘Lle Lleol ar gyfer Natur’, boed yn grŵp cymunedol, man addoli neu gymdeithas trigolion.

Y Pecynnau

Ar y cyd â Cadwch Gymru’n Daclus, caiff dros 800 o ‘becynnau dechrau’ eu neilltuo i gymunedau ledled Cymru.

O’r 801 o becynnau dechrau, bydd yna 267 yr un o’r tri math:

  • Gerddi Pili Palod – Bydd y pecyn yn cynnwys planhigion llachar, persawrus a llawn neithdar e.e. lafant, gwyddfid (llaeth y gaseg), arfau, compost, border/trelis a chynllun plannu gyda mesuriadau a chanllaw ar sut i reoli’r llain yn y tymor hir.
  • Gerddi Ffrwythau – Bydd y pecyn yn cynnwys coed ffrwythau, llwyni ffrwythau meddal, ffrwythau ar gansen a mefus. Bydd yn cynnwys hefyd hadau blodau gwyllt brodorol i ddenu pryfed peillio, arfau llaw, compost, menig coed, netin a chanllaw.
  • Gerddi Bywyd Gwyllt – Bydd y pecyn yn cynnwys blychau bywyd gwyllt, hadau blodau gwyllt brodorol, planhigion dringo (e.e. clematis a gwyddfid) a threlis, compost ac arfau llaw. Cynhwysir canllawiau rheoli, cyngor ynghylch pam ei bod yn bwysig gadael i borfa dyfu (a pheidio â phoeni am chwyn) a ffyrdd eraill o arddio er lles bywyd gwyllt.

Yn ogystal â’r pecynnau hyn i ddechreuwyr, bydd yna 66 o becynnau datblygu ar gyfer cymunedau arbennig o uchelgeisiol. Bydd y pecynnau hyn yn helpu i greu prosiectau mwy fel cynlluniau draenio trefol cynaliadwy, lle i dyfu bwyd ar gyfer y gymuned neu le i natur.

Angen gweithredu

“Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod ein bioamrywiaeth yng Nghymru’n dirywio,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Ers 1970, mae gennym lai o fywyd gwyllt ac mewn llai o lefydd. Er mwyn gallu mynd i’r afael ag argyfwng natur, rhaid sicrhau bod ein hecosystemau cyn gryfed ag y gallant fod. Rhaid i ni i gyd weithredu a rhaid gweithredu nawr.

“Rwy’n gwybod bod yna bobl sy’n frwd dros adfer natur ledled y wlad. Mae yna gymaint o waith da eisoes yn cael ei wneud ond rwy’n clywed yn aml nad yw pobl yn gwybod ble i ddechrau na ble i fynd am help a chyngor.

“Mae’n bleser aruthrol imi felly cael lansio ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’, fel rhan o ymrwymiad ehangach i’w gwneud hi’n rhwydd i bawb amddiffyn, adfer a chyfoethogi’r bywyd gwyllt sydd ar garreg ein drws ac o’n cwmpas.”