Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod mwy na 1,000 o gartrefi a channoedd o fusnesau wedi cael eu taro gan y llifogydd yn sgil y stormydd yn ddiweddar.

Yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylch, mae’r difrod yn “hollol ddinistriol” i’r sawl sydd wedi’u heffeithio ac i “Gymru fel cenedl”.

Mae nifer o rybuddion am lifogydd mewn grym o hyd, ac mae Lesley Griffiths yn rhybuddio bod perygl ar hyd afon Hafren o hyd.

Dywed y gallai cost y difrod godi i “ddegau o filiynau o bunnoedd”, ac na fydd Llywodraeth Cymru’n gallu fforddio hynny.

“Des i i lawr o’r gogledd i’r de ddoe ac mae’n eich taro chi o weld yr effaith ym mhob man,” meddai.

“Roedd y stormydd yn ddigwyddiadau arwyddocaol dros ben, a dw i’n meddwl bod rhaid i ni gydnabod hynny.

“Cwympodd gwerth mis o law mewn 24 awr.”

Amddiffynfeydd ar hyd afonydd

Fe gododd nifer o afonydd yn uwch nag erioed o’r blaen yn ystod Storm Ciara a Storm Dennis.

Roedd afon Tâf 80cm yn uwch nag yr oedd yn ystod llifogydd 1979.

Ond yn ôl Lesley Griffiths, fe wnaeth yr amddiffynfeydd warchod mwy na 9,000 o gartrefi ar hyd yr afon, gyda 73,000 o gartrefi wedi’u gwarchod ledled Cymru.

Ddydd Llun, daeth cadarnhad y byddai pob eiddo sydd wedi’i effeithio’n derbyn £500, gyda £500 ychwanegol i bobol heb yswiriant.

Ymateb Llywodraeth Prydain

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod nhw wedi bod yn “cyfathrebu’n gyson” â’r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru yn dilyn y llifogydd.

Maen nhw’n dweud na fydd taliadau llifogydd unigolion a theuluoedd yn effeithio ar hawl pobol i dderbyn budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau.