Mae gwyddonwyr yng Nghymru “yn paratoi’n dda” rhag ofn y bydd achosion o’r coronavirus yn y wlad, yn ôl gwyddonydd sy’n cydlynu’r ymateb.

Does dim achosion wedi bod hyd yn hyn, ond mae Dr Robin Howe wedi bod yn egluro’r drefn sydd yn ei lle fel rhagofal.

“Heddiw (25 Chwefror), mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi cyhoeddi’r cyngor diweddaraf i deithwyr sy’n dychwelyd,” meddai.

“Byddem yn annog teithwyr i wirio’r cyngor diwygiedig, sydd bellach yn cynnwys canllawiau i deithwyr sy’n dychwelyd o Iran, Gogledd yr Eidal, De Corea, Fietnam, Cambodia, Laos, a Myanmar.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda gwledydd eraill y DU, Llywodraeth Cymru, y GIG ehangach yng Nghymru, ac eraill i fonitro’r achos o’r Coronavirus Nofel (COVID-19) yn Tsieina, ac rydym wedi gweithredu ein hymateb a gynlluniwyd.

“Rydym wedi paratoi’n dda, ac mae mesurau rheoli heintiau cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

“Mae pob un o drigolion Cymru sy’n bodloni’r meini prawf profi presennol ar gyfer Coronavirus Nofel (COVID-19) yn cael cynnig profion.

“Mae’r prawf diagnostig ar gyfer Coronavirus Nofel (COVID-19) wedi’i ddatblygu bellach yn labordy firoleg arbenigol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

“Mae gwyddonwyr hyfforddedig Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn cynnal y prawf arbenigol yng Nghymru – gan sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda os byddwn yn gweld achosion yng Nghymru.”

Beth sydd wedi’i ddweud yng Nghymru eisoes?

Mae yna ddatblygiadau dyddiol mewn achosion o Coronavirus erbyn hyn, gydag achosion mwy diweddar yng ngogledd yr Eidal a Tenerife.

Ar Chwefror 21, gwnaeth Dr. Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ddatganiad ar ran y Llywodraeth i’r wasg.

“Er bod yr achosion o’r coronafeirws yn Tsieina yn cynyddu, ynghyd â nifer y gwledydd sydd wedi’u heffeithio oherwydd bod y feirws wedi’i gludo yno, cymedrol yw’r risg i’r cyhoedd o hyd,” meddai.

“Hyd yma yng Nghymru rydym wedi darparu gwasanaeth asesu a phrofi i fwy na 200 o bobl ac roedd canlyniad pob un ohonynt yn negatif ar gyfer coronafeirws.

“Er hynny, mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud yn siŵr, pe bai’r feirws COVID-19 yn lledaenu yng Nghymru, bod ein cynlluniau ymateb yn gadarn ac yn realistig.

“I gefnogi hyn, rydym wedi bod yn gweithio gyda phrif weithredwr GIG Cymru i gynnull Grŵp Cynllunio ac Ymateb Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer COVID-19.”

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’n nhw’n diweddaru eu gwefan gyda gwybodaeth gyfredol am achosion ym Mhrydain a Chymru am 3 o’r gloch bob dydd.