Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd melyn am rew ac eira yng Nghymru.

Bydd y cyntaf mewn grym rhwng 8 o’r gloch heno (nos Fawrth, Chwefror 25) i 10 o’r gloch bore fory (dydd Mercher, Chwefror 26).

Bydd y llall mewn grym yng Nghasnewydd a Sir Fynwy o ganol nos heno hyd at 10 o’r gloch bore fory (dydd Mercher, Chwefror 26).

Dylai pobol fod yn ymwybodol o’r risg o anafiadau, a chymryd gofal ar heolydd, palmentydd a llwybrau seiclo, meddai’r rhybudd.

Mae’n bosib y gallai teithwyr wynebu oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.