Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe.

Fe ddigwyddodd ar ffordd A483 ger yr M4 yn ardal y Cadle am oddeutu 10.30 neithiwr (nos Lun, Chwefror 24).

Roedd tri cherbyd yn y gwrthdrawiad, sef Mini Cooper coch a BMW gwyn oedd yn teithio i’r un cyfeiriad, a Ford Mondeo glas oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Cafodd dau o bobol eu cludo i’r ysbyty, lle mae un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae trydydd person, dyn 20 oed, wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am gerbyd oedd yn teithio ar hyd yr A483 ger cylchfan y Cadle a Phenllergaer roi gwybod i’r heddlu ar 101.

Yn yr un modd, dylai unrhyw un â deunydd dashcam hefyd gysylltu â’r heddlu.