Mae plismon yn yr ysbyty gydag anaf difrifol i’w gefn ar ôl i gar gael ei yrru’n fwriadol yn erbyn  ei gerbyd.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd Skoda melyn wedi taro’n erbyn car heddlu yn ardal Abaty Nedd yn hwyr neithiwr.

Maen nhw’n dweud fod y gwrthdrawiad wedi ei achosi’n fwriadol a bod gyrrwr y Skoda wedi rhedeg o’r ardal i gyfeiriad pentre’ Bryncoch.

Fe fu’n rhaid galw’r gwasanaeth tân a defnyddio offer arbenigol i dorri dau blismon yn rhydd o weddillion y car heddlu ac mae un ohonyn nhw wedi ei anafu’n ddrwg.

Wedi ei ddwyn

Mae’r heddlu’n dweud bod y car wedi ei ddwyn o ardal Llansamlet nos Sul ac roedd ganddo blatiau rhif a oedd wedi eu dwyn o ardal Pontypridd ddiwrnod ynghynt.

Maen nhw’n amau bod y car wedi ei ddefnyddio mewn sawl achos o dorri i mewn yn ardal Castell Nedd ac Abertawe.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth – i’r heddlu ar 101 neu i Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.