Mae gwleidyddion yn Rhondda Cynon Tâf yn apelio am gymorth gan Ganghellor San Steffan, gan ddisgrifio’r llifogydd diweddar fel “argyfwng ar stepen y drws”.
Mae pedwar aelod seneddol ymhlith y criw sydd wedi anfon llythyr at Rishi Sunak yn disgrifio’r difrod.
Mae’r llythyr, sydd wedi’i lofnodi gan Chris Elmore, Chris Bryant, Beth Winter ac Alex Davies-Jones, ynghyd â’r aelodau Cynulliad Mick Antoniw, Vikki Howells a Huw Irranca-Davies, yn dweud bod “yswiriant yn rhywbeth moethus na all [trigolion] mo’i fforddio”
Yn yr ardal hon mae 25% o’r holl eiddo sydd wedi’i effeithio yng ngwledydd Prydain.
Mae dwsinau o fusnesau wedi’u heffeithio, ac mae Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Tâf yn wynebu bil o £30m ar gyfer gwaith atgyweirio.
Y cyfalaf cyffredinol sydd ar gael yn flynyddol i’r cyngor yw £13.4m, ac mae’r llythyr yn nodi pryderon y gall tirlithriadau ddigwydd yno.
“Mae nifer o gymunedau RhCT ymhlith y tlotaf yn y Deyrnas Unedig,” medd y llythyr.
“Mae gyda ni lefelau uchel o ddiweithdra a than-gyflogaeth.
“Mae cyflogau cyfartalog yn isel ond gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a lefel uchel o gyflyrau iechyd, mae pwysau mawr ar wasanaethau cyhoeddus.
“Cyfanswm cyllideb RhCT yw £500m yn unig, a’r rhan fwyaf yn mynd at ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n gadael ychydig iawn o le i ymdrin â’r fath argyfwng cenedlaethol ar stepen ein drws.”
Er bod y mater wedi’i ddatganoli, meddai’r llythyr, dylai holl wledydd Prydain gyfrannu er mwyn helpu’r ardal dan sylw.
Mae’r llythyr yn gofyn am bedwar peth:
- grant is-adeiledd o £30m
- i’r Adran Gwaith a Phensiynau beidio â thynnu arian yn ôl
- dileu cyfraniadau treth y cyngor a chyfraddau busnes ar y cymorth
- adolygiad gan y Llywodraeth o’r holl safleoedd glo yn y de