Mae dau ddyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddwbwl yn dilyn cyrch ar ffatri ganabis yng Nghaergybi yn parhau i gael eu holi yn y ddalfa.
Bu farw dau ddyn, Khuamiah Douglas, 19 oed o Moseley, a Waseem Ramzan, 26 oed, ar ôl iddyn nhw gael eu trywanu yn ystod lladrad yn ardal Dudley yng nghanolbarth Lloegr fore dydd Iau (Chwefror 20).
Cafodd dau ddyn, 21 a 23 oed, eu harestio ym mhorthladd Caergybi fore ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 22), ac maen nhw’n cael eu holi ar amheuaeth o gynllwynio i ladrata.
Mae dyn 19 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio a chynllwynio i ladrata.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n credu bod saith dyn wedi targedu’r eiddo lle’r oedd y ffatri ganabis, ac mae lle i gredu iddyn nhw gael eu herio wrth fynd i mewn.
Cafodd dau ddyn eu trywanu yn ystod ffrwgwd ar y stryd, lle’r oedd car hefyd mewn gwrthdrawiad â cherbydau eraill.
Yn ôl tystion, cafodd yr eiddo ei ddifrodi cyn i ddynion redeg i ffwrdd yn cario planhigion.
Teyrnged i Waseem Ramzan
Mae teulu Waseem Ramzan, un o’r dynion fu farw, wedi rhoi teyrnged iddo.
Maen nhw’n gofyn i bobol “gofio amdano wrth weddïo”.
Mae’r heddlu’n dal ar y safle, ac mae disgwyl i archwiliadau post-mortem gael eu cynnal maes o law.