Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud na chafodd neb ei drywanu i farwolaeth yn y Drenewydd.

Maen nhw wedi ymateb i sïon am ddigwyddiad honedig yn y Drenewydd.

Dywed llefarydd eu bod o’r barn fod yna gamddealltwriaeth yn dilyn marwolaeth dyn 82 oed yr wythnos ddiwethaf.

Marwolaeth

Yn ôl yr heddlu, fe fu farw’r dyn oedrannus yn sydyn ar ôl anafu ei ben wrth gwympo ar nos Sul, Chwefror 16.

Cafwyd hyd iddo gan aelod o’r cyhoedd ag anafiadau difrifol i’w ben.

Cafodd e driniaeth gan barafeddygon cyn marw mewn ambiwlans, ac mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus.