Fe fydd Eistedddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych eleni yn nodi cyfraniad enfawr cantores ac arweinydd ddawnus a fu farw mewn damwain ffordd ddiwedd y llynedd.

Mae’r Urdd wedi enwi’r ddiweddar Margaret Edwards, Betws Gwerfyl Goch fel un o Lywyddion Anrhydeddus yr ŵyl.

Mewn pennod arbennig o raglen Dei Tomos ar Radio Cymru nos yfory (nos Sul, Chwefror 23), bydd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Sian Eirian, yn talu teyrnged iddi.

Yn y stiwdio hefyd bydd Elin Angharad, (merch Margaret) a Beryl Lloyd Roberts a bydd cyfraniadau gan Rhys Meirion, Sian Edwards, John Eric Hughes a Trebor Edwards. Bydd cyfle hefyd i glywed pytiau o gerddoriaeth o fywyd  Margaret Edwards,  yn cynnwys rhai o’i chorau ar hyd y blynyddoedd, llais Margaret ei hun yn canu unawd a deuawd gyda Trebor Edwards a pharti canu o’i hwyrion a’i hwyresau i gyd.

Cyfraniad neilltuol

“Fe wnaeth Margaret Edwards gyfraniad neilltuol i’r Urdd,” meddai Sian Eirian, “gan roi oriau o’i hamser i hyfforddi, trefnu ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i gystadlu yn eisteddfodau’r Urdd ar hyd y blynyddoedd.

“Margaret Edwards oedd yn gyfrifol am sefydlu aelwyd hynod lwyddiannus Bro Gwerfyl, yn 1987, ac yn 2001 fe’i cyflwynwyd gyda Thlws John a Ceridwen Hughes am ei holl waith gwirfoddol i’r mudiad.

“Yn ogystal ag aelodau Aelwyd Bro Gwerfyl manteisiodd cenedlaethau o blant ar ei dawn fel athrawes a hyfforddwraig, yn ei chyfnod yn Bennaeth Ysgol Dinmael ac yn dysgu cerdd mewn amrywiol ysgolion a ôl hynny.

“Er tristwch y sefyllfa, rydyn ni yn hynod o falch o allu cydnabod cyfaniad enfawr a phwysig Margaret Edwards yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020.”