Mae trigolion ardaloedd lle bu llifogydd wedi cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr.

Mae wedi dod at sylw Heddlu De Cymru bod galwadau gan bobl yn honni eu bod o asiantaethau yswiriant yn cael eu gwneud ledled De Cymru.

Daw hyn gwta wythnos ers i Storm Dennis hyrddio’r Deyrnas Unedig gan achosi llifogydd, tirlithriadau a difrod difrifol.

Dywed yr heddlu wrth bobl fod yn wyliadwrus o alwadau sy’n cynnig taliadau yswiriant neu sy’n gofyn am fanylion banc heb rybudd.

“Os yw cynnig yn ymddangos rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol mai dyna yw’r gwirionedd. Dylech ei amau bob amser,” meddai datganiad gan yr heddlu.

Maent hefyd yn annog pobl i gysylltu â chwmni drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu rif ffôn hysbys, fel rhai sydd ar bolisi yswiriant neu rif oddi ar wefan ddilys.