Mae rhybuddion gwyliadwriaeth llifogydd mewn grym ledled y gogledd a’r canolbarth ar ôl oriau o law trwm neithiwr.

Ymhlith yr afonydd sy’n cael eu henwi fel rhai sydd mewn perygl o orlifo mae Conwy, Elwy, Clwyd, Dysynni, Dyfi, Glaslyn a Dwyryd, Mawddach ac Wnion, Dyfrdwy, Hafren ac Efyrnwy.

Yn ogystal â’r 16 o rybuddion gwyliadwriaeth yn nalgylchoedd yr afonydd hyn, mae rhybuddion coch mwy difrifol sy’n annog gweithredu ar unwaith mewn tri lle:

  • Y ffordd ar draws pont Llanrwst i gyfeiriad Trefriw
  • Dyffryn Efyrnwy yn ardal Meifod
  • Dyffryn Dyfrdwy islaw Llangollen – rhybudd sydd wedi bod mewn grym ers bron i bythefnos.

Er hyn, yng ngweddill Cymru y mae disgwyl y glaw trymaf heddiw ac yfory.

Mae rhybudd melyn am law trwm wedi bod mewn grym yn holl siroedd y de a’r canolbarth ac eithrio Sir Benfro ers 3 o’r gloch y bore, ac fe fydd yn parhau hyd 3 o’r gloch bnawn yfory.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i law symud o’r gorllewin i’r dwyrain ar draws de Prydain ac y gall fod yn arbennig o barhaus a thrwm yng nghanolbarth a de Cymru fore yfory.

Ffordd y B5106 rhwng Llanrwst a Trefriw o dan ddwr fore Sadwrn 22 Chwefror 2020