Mae rhybudd i drigolion Crughywel ger y Fenni y bydd pont y dref ynghau dros nos am bedair noson yr wythnos nesaf.
Mae hyn er mwyn cynnal gwaith atgyweirio brys yn dilyn Storm Dennis.
Bydd yn bont yn cael ei chau am y tro cyntaf nos Lun (Chwefror 24) rhwng 7 o’r gloch y nos a 7 o’r gloch y bore.
Mae’n debyg y bydd yn cymryd sawl noson i’r gwaith gael ei gwblhau oherwydd y difrod.
Bydd arwyddion yn cyfeirio cerbydau tra bydd y bont wedi’i chau.