Gallai’r cynlluniau ar gyfer ysgol arbennig newydd gwerth £22m ym Mhowys fynd “gam yn nes” ar ôl i Gabinet y Cyngor Sir eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Bwriad y Cyngor Sir yw codi adeilad newydd i Ysgol Cedewain, ac maen nhw wedi paratoi dogfen a fydd yn cael ei hystyried ddydd Mawrth (Mawrth 3).

Pe bai’r cabinet yn cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol, bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael eu sêl bendith.

Mae angen bron i £22.7m ar gyfer yr ysgol newydd, gyda 75% o’r arian yn dod o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a 25% gan y Cyngor.

Bydd gan ysgol newydd Cedewain gyfleusterau megis pwll therapi dŵr, ystafelloedd synwyryddol a ffisiotherapi, gardd a chaffi cymunedol.

“Un o’n blaenoriaethau yw darparu campws arloesol gyda’r diweddaraf i ddisodli hen adeiladau Ysgol Cedewain, sydd mewn cyflwr gwael dros ben a heb fod yn addas i’r diben,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Portffolio’r Cabinet dros Addysg.

“Os cymeradwya’r Cabinet a Llywodraeth Cymru’r Achos Amlinellol Strategol, byddai hyn yn fuddsoddiad anferthol yn ein seilwaith ysgolion.”