Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law yng Nghymru ddydd Sul (Chwefror 23).

Bydd y rhybudd yn ei le am 12 awr rhwng 3 o’r gloch y bore tan 3 o’r gloch y prynhawn, ac fe fydd yn effeithio ar rannau helaeth o’r wlad.

Y disgwyl yw y gallai daro’n wael yr ardaloedd hynny sydd eisoes wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd – o Gaerdydd ac Abertawe yn y de i Landrindod yn y canolbarth.

Gallai rhwng 20mm a 40mm o law gwympo, a hyd at 60mm mewn ardaloedd mynyddig.

Mae rhybudd y gallai llifogydd daro cartrefi a busnesau, ac achosi oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r rhybudd yn ei le yn ardaloedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Tâf a Thorfaen.

Risg isel sydd i’r llifogydd, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.