Mae gig Gŵyl Ddewi Huw Chiswell wedi cael ei symud o Glwb y Bont i Ganolfan Garth Olwg yn sgil y llifogydd ym Mhontypridd.

Bu’n rhaid cau Clwb y Bont, clwb Cymraeg Pontypridd, yn dilyn llifogydd yn sgil Storm Dennis.

Mae trefnwyr y gig Gŵyl Ddewi oedd i fod i gael ei gynnal yn y clwb wedi cadarnhau y bydd y gig yn mynd yn ei flaen yn y lleoliad newydd.

Bydd Erin Lancaster hefyd yn perfformio yn y gig nos Sadwrn, Chwefror 29.

Dywedodd llefarydd ar ran Clwb y Bont wrth golwg360 ei bod nhw’n “ddiolchgar iawn i’r gymuned leol, a thu hwnt am eu parodrwydd i helpu yn dilyn y llifogydd.”

Y diweddaraf

“Mae nifer o adeiladau a chlybiau yn yr ardal mewn yn yr un sefyllfa, ac mae’n amhosib dweud pryd yn union bydd y clwb yn ail agor,” meddai’r llefarydd.

“O ganlyniad i hyn rydym wedi dewis symud ein digwyddiadau i leoliadau eraill ym Mhontypridd.

“Un o’r rhain yw’r gig Gŵyl Ddewi, ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Ganolfan Garth Olwg sydd yn fodlon i ni gynnal y gig yno, a’i bod nhw’n fodlon i’r holl elw fynd tuag at Glwb y Bont.”

Mae tocynnau sydd eisoes wedi eu prynu’n dal yn ddilys, ac mae 40 tocyn ychwanegol wedi eu rhyddhau ar gyfer y digwyddiad.

Cafodd Clwb y Bont, sy’n disgrifio’i hun fel “canolbwynt ar gyfer digwyddiadau diwylliannol amrywiol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu”, ei agor gan Dafydd Iwan ym mis Medi 1983.