Prif reilffordd y De
Gallai fandaliaid a osododd ddarnau o fetel ar reilffordd brysur fod wedi achosi trasiedi, meddai’r Heddlu Trafnidiaeth.

Roedd y darnau wedi cael eu gosod yn “fwriadol a maleisus”, medden nhw ar ôl y digwyddiad ar brif lein de Cymru dros y Sul.

Cafodd dau drên eu hatal gan y darnau metel, gan achosi oedi mawr i deithwyr  wrth i heddlu a staff sicrhau nad oedd difrod wedi’i achosi..

Yn ôl Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth yng Nghaerdydd, Gary Nash, roedd “diogelwch teithwyr wedi ei gyfaddawdu’n ddifrifol gan y fandaliaeth ddifeddwl” ac fe allai fod wedi arwain at ddamwain ddrwg.

Dau drên prysur

Roedd y ddau drên yn teithio o gyfeiriad Paddington, Llundain i gyfeiriad Abertawe brynhawn Sadwrn pan drawon nhw’r darnau metel a oedd wedi eu gosod ar y cledrau ger Sain Ffagan.

Roedd y ddau drên yn brysur iawn gan fod nifer o gefnogwyr pêl-droed Abertawe yn dychwelyd o’u gêm yn Uchwchgynghrair Lloegr yn Wolverhampton.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu am y digwyddiad am 6pm nos Sadwrn.

“Roedd hwn yn ymdrech penderfynol i ddifrodi trenau, a does fiw meddwl beth allai fod wedi digwydd,” meddai Gary Nash.  “Alla’ i ddim a deall pam fyddai unrhyw un yn gwneud y fath beth.

“Fe fyddwn ni’n cynyddu’r patrolau yn yr ardal yn ystod hanner tymor a thu hwnt. Dw i’n benderfynol o ddal y bobol oedd yn gyfrifol am hyn,” meddai.

“Mae swyddogion yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad yn lleol ar hyn o bryd, a dw i’n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad i ddod ymlaen ar unwaith.”

  • Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 gan nodi’r cyfeirnod B6/WCA a 26/10/2011, neu alw Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 (mae modd galw’n ddienw).