Mae pryder fod cannoedd o gleifion bob mis yn methu â gadael yr ysbyty oherwydd nad oes ganddyn nhw unlle addas i fynd i gael y gofal angenrheidiol.

Er mwyn deall mwy ar y broblem, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad i brosesau rhyddhau o’r ysbyty heddiw (Chwefror 20).

Ystyr “oedi wrth drosglwyddo gofal” yw bod claf sy’n barod i symud o’r ysbyty er mwyn derbyn cam nesaf ei ofal yn cael ei atal rhag gadael am pa bynnag reswm. Term arall sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar lafar yw “blocio gwelyau”.

Mae’r ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi yn dangos bod nifer yr achosion yn amrywio o fis i fis ledled Cymru, ond mae’r ffigyrau wedi aros dros 400 yn gyson.

Mae’r achosion o oedi yn cael eu categoreiddio yn ôl materion gofal iechyd a gofal cymunedol, ac yna’r dewis o gartrefi gofal a’r lleoedd sydd ar gael.

Dywed yr Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: “Rydyn ni’n gwybod bod yr oedi cyn i bobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn cael effaith niweidiol ar ysbytai yn ogystal â chleifion.

“Mae’r achosion hyn o oedi yn y system yn effeithio ar yr ysbyty cyfan, ac fe all yr effaith fod yn niweidiol i gleifion a’u gwellhad.”