Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu cronfa frys o fewn y saith diwrnod nesaf i ymateb i ddifrod y llifogydd diweddar.

Daw hyn ar ôl i tua 800 o gartrefi yng Nghymru ddioddef llifogydd yn sgil stormydd Dennis a Ciara dros y pythefnos ddiwethaf.

Fe fydd yr arian yn mynd at:

  • Pobl sydd â’u tai wedi eu difrodi oherwydd y stormydd, gyda chyllid brys ar gael i leddfu’r pwysau ar bobl;
  • Cefnogi busnesau a strydoedd sydd wedi dioddef;
  • Awdurdodau lleol sy’n delio â chostau glanhau;
  • Atgyweiriadau brys i ffyrdd a phontydd sydd wedi’u difrodi.

Mae hyd ar £10 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith cychwynnol, ac mae Llywodraeth Cymru yn trafod gyda’r cynghorau sir i gael darlun clir o’r difrod er mwyn penderfynu faint o arian yn union fydd ei angen.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Gweinidogion y Cabinet a minnau wedi bod i Wrecsam, Ffynnon Taf, Llanrwst, Caerfyrddin, Pontypridd a Tylorstown, i gwrdd â phobl sydd wedi eu heffeithio gan y stormydd diweddar.

“Mae’n dorcalonnus gweld y dinistr llwyr a achoswyd gan y stormydd a fy neges i bawb yr wyf wedi cwrdd â yw ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Byddwn yn sicrhau bod cymorth ariannol brys ar gael i bobl sydd wedi a chartrefi wedi eu dinistrio oherwydd y llifogydd ac, yn benodol, yn helpu teuluoedd sydd heb yswiriant.

“Yfory, byddaf yn dod â phartneriaid allweddol o ledled Cymru i benderfynu sut y gallwn ryddhau arian yn gyflym, a sut y gellir ei ddefnyddio yn fwyaf effeithiol. Byddwn hefyd yn edrych i mewn i’r gefnogaeth tymor hir sydd ei hangen i fynd i’r afael â’r difrod strwythurol yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio.”

Israddio rhybudd

Yn y cyfamser, mae’r ddau rybudd o lifogydd difrifol a oedd mewn grym ar afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cael eu israddio i rybuddion llifogydd, er bod y bont yn y dref yn dal wedi cau. Fe fu’n rhaid i dimau achub mynydd achub dyn oedrannus o’i gartref yn y dref ddoe.

Mae chwe rhybudd llifogydd difrifol yn dal mewn grym yn siroedd cyfagos Henffordd ac Amwythig.

Mae pum rhybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd – dau ar afon Mynwy, dau ar afon Gwy, ac un ar afon Dyfrdwy islaw Llangollen. Yn ogystal, mae wyth rhybudd melyn i gadw gwyliadwriaeth am lifogydd – un yn ne Sir Benfro a’r gweddill yn y de-ddwyrain.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am law trwm heno, gyda disgwyl hyd at 100mm yn y gogledd a 50-60cm yn y de.