Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i gar Audi A4 daro cerddwr yn Llanelli fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 18).

Cawson nhw eu galw i Heol yr Orsaf am oddeutu 12.15yb, ac aed â’r cerddwr i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.