Mae un o’r ymgyrchwyr fu’n brwydro yn erbyn cau Ysgol Felindre yn Abertawe yn cyhuddo’r cyngor sir o “rwyto trwynau cymdeithas” drwy werthu’r safle mewn ocsiwn yn Llundain.

Fe fu’r ymgyrchwyr o blaid cadw’r ysgol yn nwylo’r gymuned wledig leol.

Ond cafodd y safle ei werthu am £150,000 mewn ocsiwn yn Llundain yn y pen draw, er bod tafarnwr lleol wedi cynnig ei brynu gyda chyfraniad o £12,500 gan y bobol leol er mwyn ei gadw at ddefnydd y gymuned.

Ond gwrthododd Cyngor Abertawe ei gynnig a phenderfynu ei werthu mewn ocsiwn.

“Fydden i’n gofyn y cwestiwn, os oedden nhw’n poeni am werth ariannol symudiad o’r fath, nid fy mod i’n cefnogi’r peth am eiliad, ond tybed a fydden nhw wedi cael mwy o werth nol trwy beidio a rhwto’n trwynau ni, bobol y gymdogaeth, a mynd i Lundain i werthu?” meddai Angharad Dafis wrth golwg360.

“Maen nhw wedi bod mor ddi-hid ac ansensitif i deimladau pobol.”

Anwybyddu argymhellion

Yn ôl Angharad Dafis mae hyn y newid polisi o ran y cyngor sir, wrth iddyn nhw ei newid o eiddo cyhoeddus i eiddo preifat.

“Ac yn bwysicach na dim oll maen nhw’n euog o’r un camwedd, eu bod nhw wedi methu cyflawni astudiaeth o’r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned cyn mynd ati i osod y lle ar ocsiwn, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw, ym mis Awst, wedi darllen argymhellion y Comisiynydd y dylen nhw fod fel Cyngor yn llunio mesurau lliniaru o ran yr effaith andwyol, ddigamsyniol ar y Gymraeg o gau’r ysgol.

“Cyfrifoldeb y Cyngor oedd cyflwyno sut oedd gwneud hyn.

“Ond pan oedd pobl yn mynd ymlaen i restru enghreifftiau fel cadw’r adeilad yn y gymuned a defnyddio’r adeilad i gynnal gwersi Cymraeg i oedolion, roedd y pethau yma yn cael eu gwthio a’u hepgor o’u hadroddiadau nhw, a mi roedden nhw’n diystyru hynny cyn dechrau.”

Cadarnle’r Gymraeg

“Yn y pen draw, mae cymunedau fel Felindre yn bodoli ar hyd a lled Cymru, ac mae’n nhw fel yr Amazon, ble mae’r amgylchedd yn y cwestiwn, achos mae gweddill cymdeithas a gweddill y Gymraeg yng Nghymru yn bwydo oddi arnyn nhw,” meddai wedyn.

“Cadarnleoedd oedden ni’n arfer eu galw nhw.

“Ac er nad yw Felindre yn gadarnle yn yr ystyr draddodiadol, ble mae eisiau 50% o siaradwyr Cymraeg, roedd ’na bron 40% yn y Parsel Mawr a mwy na hynny yn Felindre.

“Felly yng nghyd-destun Abertawe gyfan, lle mae ond 11% o siaradwyr Cymraeg, yna mae’r bwlch yn sylweddol.”

‘Penllanw trist iawn’

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “benllanw trist iawn ar flynoedd o esgeulustod ar ran y cyngor sir ac asiantaethau eraill”.

“Dylai’r ysgol fod wedi cael ei thrin ar yr un gwastad ag ysgolion eraill cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, ond am ryw reswm mae wedi cael ei heithrio o hynny.

“Roedd Ysgol Felindre a safle’r ysgol yn freuddwyd o le, ond wedyn mae’n nhw’n ei thaflu i’r naill ochr.”