Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, yn dweud bod ffigurau diweithdra Cymru’n “destun balchder”, ar ôl i’r wlad gofnodi’r lefel isaf erioed.

Fe gwympodd o 3.8%, y lefel Brydeinig, i 2.9% rhwng Hydref a Rhagfyr.

Ond roedd 50,000 yn llai o bobol mewn gwaith o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd.

3.8% oedd y ffigwr yn y chwarter blaenorol hwnnw rhwng Gorffennaf a Medi.

Roedd 45,000 o bobol yn chwilio am waith rhwng Hydref a Rhagfyr – 14,000 yn llai na’r chwarter blaenorol.

“Mae tipyn i fod yn falch ohono fe,” meddai Ken Skates wrth ymateb i’r ffigurau.

“Fel Llywodraeth yng Nghymru, rydym yn gweithio’n galed i yrru llewyrch a thwf ledled Cymru.

“Mae camau diweddar fel ein buddsoddiad o £650,000 yn Williams Medical Supplies, a fydd yn gweld 91 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y cymoedd, yn enghraifft arall o’r camau gweithredol rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi busnesau a chreu cyfleoedd gwaith o safon uchel yng nghalon ein cymunedau.”