Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian wedi galw am ymchwiliad cwbl annibynnol i wasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru, yn dilyn adroddiad damniol sy’n dweud nad oes gan gleifion unrhyw hyder ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mewn adroddiad gan Gyngor Iechyd Cymunedol gogledd Cymru (CIC), mae’n nodi cyfres o feirniadaethau damniol o’r Bwrdd Iechyd, o gleifion sydd â gormod o ofn defnyddio’r gwasanaeth fasgwlaidd, i rai cleifion yn dweud na chawsant unrhyw ofal yn dilyn llawdriniaeth.

“Rwyf wedi dadlau’n gyson yn erbyn israddio gofal fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, gan wybod y byddai diogelwch cleifion yn cael ei beryglu,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae’r adroddiad hwn yn ymhelaethu ar fy mhryderon a dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae methiannau difrifol pellach wedi dod i’r wyneb, pob un yn peryglu diogelwch cleifion.”

‘Adroddiad gwirioneddol ddamniol’

“Mae arnom angen ymchwiliad cwbl annibynnol a thryloyw i ofal fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn ddyletswydd ar y Bwrdd wedyn i gyhoeddi’n llawn yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r methiannau difrifol hyn sy’n peryglu bywydau cleifion,” meddai wedyn.

“Dyma adroddiad gwirioneddol ddamniol.

“Daw â thystiolaeth frawychus i’r wyneb gan gleifion, eu teuluoedd a staff y Bwrdd Iechyd ynghylch methiannau difrifol mewn gofal fasgwlaidd yng ngogledd Cymru.

“O gleifion a gafodd eu twyllo ynglŷn â chadw gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, i deuluoedd a chleifion o dde Meirionnydd a orfodwyd i aros mewn gwestai i gael mynediad at driniaeth angenrheidiol.

“Mae’r adroddiad yma yn ategu yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod; mae pobl wedi cael eu twyllo o’r cychwyn cyntaf.”