Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw ar Lywodraeth Prydain i wneud tro pedol ar gynlluniau i ddiddymu ffi’r drwydded deledu, a sicrhau bod dyfodol S4C yn ddiogel mewn unrhyw setliad ariannol yn y dyfodol.

Mae’r Arglwydd Roger Roberts, sy’n cynrychioli’r blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi, wedi beirniadu’r bwriad i ddiddymu ffi’r drwydded gan y gallai hynny fygwth dyfodol S4C.

“Ers ei sefydlu ym 1982, mae S4C wedi bod yn ffactor pwysig o ran hybu adfywiad ein hiaith a chynorthwyo â hynny,” meddai.

“Mae S4C yn rhan hanfodol o ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg a bywyd gwleidyddol Cymru, a chaiff gwaith y sianel ei gynnal yn bennaf gan ffioedd trwyddedau teledu.

“Os bydd y llywodraeth hon yn diddymu ffioedd trwyddedau teledu, bydd yr effeithiau ar S4C yn drychinebus. Rwy’n annog pob plaid i gydweithredu i amddiffyn ffioedd trwyddedau teledu a diogelu dyfodol darlledu yn Gymraeg.”