Mae ymgyrchwyr wedi galw am ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth Prydain bwriadu cael gwared o ffi drwydded deledu,

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae gwneud hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn ac ehangu darlledu cyhoeddus yng Nghymru.

Roedd adroddiadau yn y Sunday Times ddoe (Chwefror 16) yn honni bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu troi’r BBC i mewn i wasanaeth tanysgrifio.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwya’ o arian S4C yn dod trwy’r BBC o’r drwydded deledu.

“Rhaid gwrthsefyll”

Honiad Cymdeithas yr Iaith yw fod cael pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn “cynnal democratiaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg.”

“Mae’r Torïaid yn cynnal rhyfel milain ideolegol yn erbyn darlledu cyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni yng Nghymru wrthsefyll hyn,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Ruth.

“Wedi’r cwbl, dyma benllanw degawdau o ddadreoleiddio darlledu a chyfathrebu ym Mhrydain sydd wedi niweidio ein democratiaeth, ein hiaith a’n cymunedau er lles busnesau mawrion.

“Mae’r ateb yn syml: dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobol Cymru.”