Mae canolfan anifeiliaid yn Abertawe yn dweud bod achosion o wenwyno cŵn wedi cael eu cadarnhau gan filfeddygon yn y ddinas.

Fe ddaw yn dilyn adroddiadau bod pedwar ci wedi marw o fewn 24 awr yn ardaloedd Clûn a Chasllwchwr.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r gwenwyn yn cynnwys cynnyrch siwgr sy’n denu’r cŵn i’w fwyta.

Bu farw Bailey, ci beagle, ar ôl bod am dro yng ngerddi Clûn a bwyta gwenwyn llygod mawr.

Mae ei berchnogion o’r farn fod y gwenwyn wedi cael ei adael yno’n fwriadol, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Cafodd ci arall, Pepper, ei wenwyno yn ardal Casllwchwr ar ôl bod am dro ar lan yr afon, meddai ei pherchennog Natalie Whitelock, ac mae lle i gredu bod yr heddlu a’r cyngor sir yn ymchwilio i’r digwyddiad hwnnw.