Mae Cronfa Adfywio newydd ar gyfer gogledd Ynys Môn wedi ei lansio heddiw (Dydd Llun, Chwefror 17) er mwyn helpu busnesau, cefnogi digwyddiadau lleol a gwneud gwelliannau amgylcheddol.

Mae Cyngor Môn wedi sefydlu’r gronfa newydd fel rhan o’i ymdrechion i adfywio ardal sydd wedi dioddef sawl ergyd economaidd yn ddiweddar, drwy ddefnyddio cyllid gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).

Mae’r Awdurdod wedi clustnodi £495,000 tuag at sicrhau nodau’r cynllun, sef:

  • Creu cyflogaeth a swyddi
  • Cefnogi’r diwydiant twristiaeth
  • Gwella trafnidiaeth a chysylltedd
  • Adfywio ardaloedd gwledig a darparu tai addas
  • Sicrhau bod yr ardal yn elwa o’i amgylchedd naturiol a’i diwylliant

 

Gobeithion

“Bydd y Gronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn yn darparu grantiau bach ar gyfer prosiectau addas sydd wedi eu hanelu at gefnogi twf economaidd, hyrwyddo’r iaith Gymraeg, creu swyddi a gwella sgiliau, gwaith partneriaeth, amddiffyn yr amgylchedd a chreu cymunedau cynaliadwy,” meddai Llinos Medi, arweinydd y Cyngor a Chynghorydd Sir Talybolion.

Mae cronfa gychwynnol o £50,000 ar gael ar gyfer cynlluniau a ellir eu cyflawni erbyn mis Medi 2020. Bydd grantiau bach o hyd at £5,000 ar gael er mwyn helpu busnesau a grwpiau cymunedol yn wardiau Talybolion a Twrcelyn a chymuned Moelfre – i wireddu cynlluniau fydd yn cefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor Sir.

Datblygwyd Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn mewn ymateb i’r oedi i brosiect Wylfa Newydd, cau ffatri Rehau yn Amlwch a thoriadau pellach i’r gweithlu yng ngorsaf bŵer presennol Wylfa.

“Rwy’n annog busnesau lleol a grwpiau cymunedol i gyflwyno cais os oes ganddynt brosiectau sy’n bodloni’r meini prawf perthnasol ac sy’n gallu helpu i adfywio eu cymunedau lleol,” meddai Llinos Medi wedyn.