Mae rhybudd i bobol sydd yn defnyddio asiantaethau tai ar-lein eu bod nhw mewn perygl o brynu neu werthu tŷ ar ddamwain – wrth ddilysu cytundeb, yn ddiarwybod iddyn nhw, gan ddefnyddio llofnod e-bost.

Daw’r rhybudd ar ôl achos diweddar pan ddyfarnodd barnwr fod llofnod o’r fath wedi dilysu cytundeb cyfreithlon, a arweiniodd at y gwerthwr yn colli £25,000 o’r pris gofyn.

Dywedodd y barnwr fod enw’r un oedd yn anfon yr e-bost – er efallai mai un wedi ei gynhyrchu yn awtomatig oedd hi – yn ddigon i ddangos fod ganddo “fwriad clir” i gysylltu ei hun â’r cytundeb a’i ddilysu.

“Mae llofnodion e-bost personol yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i bobol geisio brandio’u hunain a chreu eu presenoldeb ar-lein,” meddai Zoe Stollard o gwmni Clarke Willmott LLP.

Mae’n dweud fod hyn, yn ymarferol, yn golygu bod telerau neu newidiadau i gytundebau sydd yn cael eu cytuno drwy e-bost agored yn cael eu cyfri fel cytundeb pendant os oes llofnod i’r e-bost, er efallai nad oes copïau caled o’r dogfennau.

“Gall yr achos yma osod cynsail wrth i’r gyfraith ddal i fyny gyda thechnoleg ac er fod y dyfarniad yn dangos symudiad blaengar wrth adael i bobl greu cytundebau clwm heb yr angen i gyfnewid cytundebau wedi eu hargraffu, mae hefyd yn rybudd i’r anfonwr i gymryd gofal,” meddai.