Mae bachgen 21 mis oed wedi marw ac mae dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 ger Gwalchmai.

Yn ôl yr heddlu, mae’r ddynes wedi cael anafiadau a fydd yn newid ei bywyd yn dilyn y digwyddiad brynhawn ddoe (dydd Sul, Chwefror 16).

Cafodd yr heddlu eu galw am 2.06yp ar ôl i Ford Mondeo a HGV daro yn erbyn ei gilydd.

Bu farw’r babi yn fuan ar ôl cael ei gludo o safle’r gwrthdrawiad, a chafodd dynes oedd yn teithio yn y car ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae hi bellach yn yr ysbyty yn Stoke.

Chafodd dyn oedd yn gyrru’r car mo’i anafu.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad, wedi cydymdeimlo â theulu’r bachgen, ac yn apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.