Fe fydd nyrs o Ynys Môn yn cael parhau i weithio, er bod panel proffesiynol wedi ei chael yn euog o gamymddwyn.

Fe fydd rhybudd yn cael ei roi ar gofnod gwaith Victoria Horsley am flwyddyn ar ôl y gwrandawiad o banel disgyblu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreicaeth.

Y penderfyniad oedd ei bod yn ddieuog o gael rhyw gyda llanc 15 oed ond ei bod wedi caniatáu i fechgyn dan 17 oed yrru ei char gwaith.

Ar õl blwyddyn, fe fydd y cofnod yn cael ei ddileu o’i chofnod proffesiynol ond fe fydd ar gael os bydd gwrandawiad disgyblu arall yn y dyfodol.

Roedd Victoria Horsley wedi gwadu popeth ond un cyhuddiad ynglŷn â’r car.

‘Bygwth’

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, fe ddywedodd cadeirydd y panel eu bod yn bryderus nad oedd y nyrs, sydd yn ei 30au, yn sylweddoli’n llawn beth yr oedd hi wedi ei wneud o’i le.

Roedd hi wedi dadlau bod dau o’r bechgyn, a’u teulu, wedi bod yn ei bygwth a’i phoeni pan oedd hi’n nyrs gymunedol gydag Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Cymru.

Roedd hi wedi colli ei gwaith ar ôl i fachgen arall gael ei weld yn gyrru ai char ac ar ôl iddi anwybyddu rhybudd i beidio â chysylltu â’r ddau frawd.

Fe benderfynodd y panel bod gormod o anghysonderau yn stori’r ddau am y cyhuddiadau rhyw.