Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn galw ar Adran Drafnidiaeth San Steffan i ddiogelu canolfan brawf y DVSA – Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau – yng Nghaernarfon.

Mae cwmnïau hyfforddi gyrwyr yn Arfon wedi mynegi eu pryder wrth Hywel Williams fod cynlluniau i symud y ganolfan brawf o Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon i Wrecsam.

Mae’r ganolfan yn darparu cyrsiau gyrru gan gynnwys hyfforddiant LGV, HGV a PCV, ar draws Gwynedd gyfan.

Os yw’r ganolfan brawf yn symud o Gaernarfon, bydd disgwyl i’r rhai sy’n cymryd prawf Cerbydau Nwyddau Mawr (LGV), Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a cherbydau Cludo Teithwyr (PCV) sefyll eu prawf yn Wrecsam.

‘Cwbl annerbyniol’

“Mae’n gwbl annerbyniol fod y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn ystyried cau cyfleusterau lleol pwysig heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw o gwbl, a hynny pan fydd bywoliaethau hyfforddwyr gyrru’r ardal yn y fantol,” meddai Hywel Williams.

“Mae cael canolfan brawf DVSA wedi’i lleoli’n ganolog yng Nghaernarfon yn golygu y gall dysgwyr o bob rhan o Wynedd sefyll eu prawf yn lleol, ac ar ffyrdd y maent yn gyfarwydd â hwy, ac y maent wedi seilio eu rhaglen hyfforddi arbenigol arnynt.

“Y peth olaf yr wyf am ei weld yw dim gwasanaeth o gwbl yn cael ei ddarparu yng Ngwynedd ac i yrwyr newydd gael eu gorfodi i sefyll eu prawf yn Wrecsam. Rwy’n bryderus iawn am y pryder a grëwyd gan yr ansicrwydd yma.”

Mae’r DVSA wedi gwrthod cadarnhau dyfodol Canolfan Brawf Caernarfon.

Mae Hywel Williams AS wedi trefnu cyfarfod â’r Farwnes Vere, Gweinidog yn yr Adran Drafnidiaeth.