Mae nifer o gronfeydd ariannol wedi cael eu sefydlu yn dilyn difrod sylweddol i dref Pontypridd o ganlyniad i lifogydd sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Dennis.

Mae Alex Davies-Jones, aelod seneddol y dref, a Mick Antoniw, yr Aelod Cynulliad, wedi sefydlu’r gronfa fwyaf, a honno eisoes wedi codi dros £5,000.

Mae hi’n dweud ar y dudalen Crowdfunder fod “gweld y llifogydd yn difrodi ein cymunedau’n hollol dorcalonnus”.

“Mae cartrefi a busnesau ar draws etholaeth Pontypridd wedi cael eu heffeithio gan Storm Dennis ac rydym wedi cael llu o gynigion o gefnogaeth a chymorth,” meddai.

“Fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Pontypridd, byddwn yn sicrhau fod yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd i’r rhai sydd angen cymorth ariannol i’w helpu i ddod dros y storm.”

Mae’r gronfa honno eisoes wedi codi bron i £6,000.

Clwb y Bont

Mae tudalen Crowdfunding hefyd wedi’i sefydlu i helpu Clwb y Bont, clwb Cymraeg y dref.

“Mae Clwb Y Bont yn rhan ganolog o gymuned Pontypridd a’r Cymoedd,” meddai neges ar y dudalen honno, sydd eisoes wedi codi dros £1,000.

“Ar nos Sadwrn, 15/02/2020, profodd Clwb Y Bont y llifogydd gwaethaf yn ei hanes. Roedd y prif far 7 troedfedd o dan y dŵr.

“Mae angen eich help arnom i ailosod dodrefn, ffitiadau ac offer trydanol.

“Cymdeithas Cydfuddiannol er Budd y Gymuned yw Clwb Y Bont. Nid ydym yn cael ein gyrru gan elw ac rydym yn bodoli i hyrwyddo diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg ym Mhontypridd.

“Rydym yn cynnal grwpiau mor amrywiol â Grwpiau Darllen, Cylchoedd Gweu, Clybiau Ffilm, Cyfeillion y Ddaear, Yes Cymru a llawer, llawer mwy.”

Bragdy Twt Lol

Mae Bragdy Twt Lol, un o fusnesau bach y dref, hefyd wedi sefydlu tudalen ar ôl difrod sylweddol i’w safle.

Dywed y cwmni ar eu tudalen Crowdfunder eu bod “yn gobeithio am ddatblygiadau newydd mawr eleni… ond mae hyn wedi ei chwalu gan y dinistr a gyflwynwyd gan yr afon Taf”.

“Gyda thristwch, gorfodir fi i atal bragu stoc newydd hyd y gellir rhagweld gan y gallai gymryd wythnosau i lanhau, atgyweirio a newid yr holl offer a stoc yn y bragdy,” meddai’r perchennog wedyn.

Yn ôl rhestr o’r difrod a gafodd ei achosi, mae o leiaf £10,000 o ddifrod wedi’i achosi:

• Hopys gwerth dros £2,000, wedi’u baeddu.

• Paled llawn brag £800 a burum £200.

• Tua £500 o wahanol glipiau pwmp a blychau cwrw £500.

• Poteli o gwrw wedi’u malu a’u toddi – £2,000.

• Cafodd pedwar pwmp gwerth tua £300 yr un eu boddi’n llwyr £1,200

• Argraffydd, digibox i sgrinio’r rygbi, amrywiol offer trydanol o leiaf £500.

• Deunyddiau cyfeirio, llyfrau, deunydd ysgrifennu, storfa matiau cwrw, dodrefn £1,000.

• Plymio, trydan, gwresogi, 3 oerydd bragdy, oergell, pwy a ŵyr? – £1,000 – £3,000.

“Rwy’n obeithiol y bydd yswiriant yn mynd yn bell i’m cefnogi, ond bydd yn cymryd amser ac yn ddi-os nid yw’n cynnwys popeth.

“Mae yna her hefyd o lanhau’r bragdy, yr wythnosau o effaith i’n gallu i fragu a sgil-effeithiau, wrth barhau i dalu’r rhent a’r biliau arferol.

“Rydym yn gofyn am gefnogaeth, i gael ein bragdy ar waith cyn gynted â phosibl ac i roi hwb i’n cynlluniau twf eleni.”