Mae cynghorydd Aberdulais yn dweud bod rhai trigolion wedi cael dychwelyd i’w cartrefi ar ôl i Storm Dennis achosi llifogydd yno.

Yn ôl Doreen Jones, fe fu rhai cartrefi dan ddŵr ers i lefelau afon Dulais godi’n sylweddol.

Ond mae’n dweud bod rhaid canmol y gwasanaethau brys a’r cynghorau lleol.

“Mae [trigolion lleol] wedi cael cefnogaeth dda gan yr holl wasanaethau brys a’r cynghorau lleol, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael mynd at berthnasau neu ffrindiau, ac mae un neu ddau hyd yn oed wedi cael mynd adref i ddechrau’r gwaith clirio,” meddai’r Cynghorydd Doreen Jones wrth golwg360.

Mae’n dweud bod y sefyllfa wedi newid yn gyflym o fewn ychydig oriau, wrth fynd o anfon y gwasanaethau brys oddi yno am 1 o’r gloch y bore i wynebu rhybudd coch erbyn tua 5 o’r gloch.

“Am 1 o’r gloch, cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon o ’ma oherwydd roedden nhw’n credu eu bod nhw dros y gwaetha’ ond yn sydyn iawn, cawson nhw eu galw eto am oddeutu 4 o’r gloch.

“Am oddeutu 5 o’r gloch i 5.15 bore ’ma, pan o’n i gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân a’r byd a’r betws, roedd yn fater rhybudd coch go iawn a ph’un a oedden nhw eisiau gadael neu beidio, roedd rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi.

“Felly roedd y cyfan yn eitha’ trawmatig i bawb.

“Mae llawer ohonyn nhw wedi bod trwy hyn o’r blaen ond dydy hynny ddim yn lleihau’r pryder na’r difrod. Roedd yr afon ar ei hanterth.

“Roedd hi’n wael iawn yma wythnos ddiwetha’, ond wnaeth yr afon ddim gorlifo fel y gwnaeth hi neithiwr.

“All yr holl drigolion ddim canmol y gwasanaethau brys na’r cyngor ddigon am eu holl gymorth.”

Pryderon blaenorol

Mae rhai trigolion lleol yn dweud nad yw Aberdulais wedi cael digon o gefnogaeth ar ôl Storm Callum yn 2018.

Roedd rhai yn adnewyddu eu tai mor ddiweddar â rhai misoedd yn ôl yn dilyn difrod a gafodd ei achosi bryd hynny.

Ond mae Doreen Jones yn mynnu nad oedd y trafferthion blaenorol hynny wedi gwaethygu’r sefyllfa pan darodd Storm Dennis y tro hwn.

“Mae Storm Dennis wedi cael effaith, yn sicr, ond nid o ganlyniad i stormydd blaenorol,” meddai

“Ro’n i yno’r wythnos ddiwetha’ ac roedd pryderon, ond wnaeth yr afon ddim gorlifo bryd hynny.

“Fe wnaeth yr afon ddal ei thir yr wythnos ddiwethaf, ond roedd yr wythnos hon yn fater gwahanol.

“Roedd yr holl afonydd yn llifo i lawr ac yn cwrdd yn Aberdulais, ac roedd yn frawychus iawn pan o’n i yno am oddeutu 5 o’r gloch, gadewch i ni ei ddweud fel yna.”