Mae dyn yn ei 60au wedi marw ar ôl cwympo i mewn i afon Tawe yng Nghwm Tawe.

Fe gwympodd y dyn i mewn i’r afon yn Ystradgynlais am oddeutu 10 o’r gloch fore heddiw.

Cafwyd hyd i’w gorff yn yr afon ger Clwb Rygbi Trebannws yn ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am dystion, ac mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.

Does dim amgylchiadau amheus, meddai’r heddlu, sy’n dweud nad yw ei farwolaeth yn gysylltiedig â’r tywydd.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth.