Mae cynghorydd Llanybydder yn dweud bod trigolion y pentref “yn ofni gweld y glaw mawr yn dod”, ar ôl i wal y bont gael ei olchi i ffwrdd am yr ail waith mewn ychydig dros flwyddyn.

Mae’n dweud bod strydoedd yn y pentref ar lan afon Teifi mewn perygl o ddioddef llifogydd yn barhaus oni bai bod rhywbeth yn cael ei wneud i’w diogelu wrth i’r tywydd waethygu yn sgil Storm Dennis.

“Roedd siwd lifogydd o’r blaen ac wrth gwrs, ry’n ni’n cael y stormydd mawr yma’n dod,” meddai’r Cynghorydd Ieuan Davies wrth golwg360.

“Mae’n edrych fel bod y tywydd yn altro bod hyn yn mynd i ddigwydd drwy’r amser.

“Gaethon ni siwd lifogydd y tro diwetha’ fel bo ni o hyd yn ofni gweld y glaw mawr yn dod achos mae’r afon yn dod reit drwy ganol y pentre’ yn Llanybydder.

“Mae Station Terrace yn cael ei floodio’n go glou ac wrth gwrs, mae’r bobol sy’n byw ’na yn ofni bod e’n dod i mewn i’r tai eto achos mewn rhai tai, roedd e reit lan i dop y lle tân y tro cynta’.”

Beth sy’n cael ei wneud?

Yn ôl Ieuan Davies, mae cynlluniau newydd ar y gweill ers ail-godi’r wal i wneud gwelliannau ar y cyd â’r bwrdd dŵr a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ond mae’n dweud nad yw’r gwelliannau’n cael eu gwneud yn ddigon cyflym.

“Mae’r pethau yma’n hala siwd amser ac mae’r difrod yn digwydd, maen nhw’n ail-godi’r peth ond does dim gwelliannau wedi cael eu gwneud.

“Sa i’n dweud cymaint y Cyngor Sir, maen nhw wedi gwneud lot o plans, ond smo hwnna’n gwella bod y dŵr yn dod trwyddo.

“Mae’r River Authority a’r NRW fod i wneud mwy o plans a gwneud rhywbeth ambwyti fe, ond does dim byd yn digwydd.”