Storm Dennis: apêl gan gynghorydd tref Pontypridd

Diweddarwyd am  
Pontypridd

Pontypridd

Llun: Wikipedia

Mae cynghorydd Pontypridd wedi cyhoeddi fideo ar Twitter yn mynegi pryder am drigolion y dref yn sgil llifogydd sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Dennis.

Mae strydoedd a cherbydau dan ddŵr, ac mae Heledd Fychan yn dweud mewn fideo ar dudalen Twitter Plaid Cymru ei bod hi’n gofidio am bobol sy’n byw yno.

“Mae’n erchyll yma yn Berw Road bore ‘ma,” meddai.

“Mae pethau wedi gwella i be’ oeddan nhw yn oriau mân y bore ond dal, mae ‘na ddŵr mewn nifer o dai yma yn Berw Road.

“Dach chi’n gweld fan hyn ar hyd yr afon, mae’r wal wedi mynd mewn dau o lefydd sy’n helpu i gael y dŵr allan o’r tai.

“Mae ‘na rai pobol yn methu cael allan o’u tai ar y funud, pobol yn aros i fyny’r grisiau, dim trydan.

“Dw i’n trio cael y cyngor allan i’w helpu nhw cyn gynted â phosib.

“Oes dach chi wedi cael eich effeithio neu’n poeni am unrhyw un, plis cysylltwch efo fi drwy Facebook neu ar fy rhif ffôn.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn