Mae nifer y rhybuddion sydd yn eu lle am dywydd garw yng Nghymru heno (nos Sadwrn, Chwefror 15) wedi cynyddu.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion o hyd at 70 milltir yr awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae afon Wysg yn gorlifo ac mae pontydd Cleddau a Britannia ynghau.

Mae dŵr yn llifo i mewn i gartrefi yn Sir Caerffili a Blaenau Gwent.

Mae rhybudd oren yn ei le ar gyfer glaw difrifol tan 3 o’r gloch prynhawn yfory (dydd Sul, Chwefror 16), a hynny yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gâr, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Tâf,  Torfaen a Wrecsam.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn ei le tan 12 o’r gloch yfory ledled Cymru, ond tan ddydd Llun i ardaloedd Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys ac Ynys Môn.

Mae chwe rhybudd am lifogydd yn eu lle yng Nglannau Dyfrdwy, ynghyd ag afon Wysg, afon Tawe yn Abercrâf ac afon Nedd yn ardal Aberdulais.