Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael eu tywys o Dŷ’r Cyffredin ar ôl torri ar draws dadl ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus ar lawr y siambr.

Cafodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, ynghyd â Jamie Bevan a Colin Nosworthy eu hebrwng allan o’r siambr ar ganol trafodaeth a fydd yn penderfynu a yw S4C yn cael ei dderbyn yn rhan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r modd y mae dyfodol S4C wedi cael ei drafod  gan Lywodraeth San Steffan sawl tro yn ddiweddar, gan gyhuddo’r BBC a Llywodraeth Llundain o gynnal trafodaethau “tu ôl i ddrysau caeedig”.

‘Datganoli grymoedd’

“Fe gafodd pobl Cymru eu heithrio yn gyfan gwbl o’r drafodaeth,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith heddiw, “Yn wir mae’r holl broses yn dangos yn glir i ni fod angen datganoli y grymoedd dros ddarlledu i Gymru.”

Mae disgwyl i Dŷ’r Cyffredin benderfynu ar newidiadau i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn ddiweddarach y prynhawn yma.