Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio am lifogydd heno (nos Sadwrn, Chwefror 15) ac yfory (dydd Sul, Chwefror 16) wrth i lefel afonydd godi yn sgil Storm Dennis.

Mae disgwyl glaw trwm a gwyntoedd cryfion hyd at yfory, yn enwedig yng nghymoedd y de, ac fe allai hynny achosi amodau gyrru peryglus yn y dwyrain.

Fe all fod nifer o rybuddion am lifogydd a allai beryglu bywydau erbyn yfory, ac mae rhybudd i bobol aros yn ddiogel.

Mae disgwyl i lefel afonydd godi yng nghymoedd y de, Eryri, Bannau Brycheiniog a mynyddoedd y Cambria.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â sawl asiantaeth ar hyn o bryd.

Yn ôl y sefydliad, dylai pobol ddilyn y cyngor canlynol:

  • Rhoi ystyriaeth ddifrifol i rybuddion am dywydd garw
  • Bod yn ofalus os oes rhaid teithio, gan osgoi gyrru neu gerdded trwy lifogydd
  • Cadw llygad ar y rhagolygon, a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhybuddion diweddaraf
  • Ffonio’r llinell gymorth 0345 988 1188 neu fynd i’r wefan www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am y wybodaeth ddiweddaraf