Mae teulu o Bacistan sydd wedi symud i Gaerdydd er mwyn i’w mab dderbyn triniaeth feddygol yn brwydro i weld eu mab arall, sydd wedi’i adael dros dro mewn cartref i blant amddifaid.

Daeth Amin Rasheed a’i deulu i Gymru dros flwyddyn yn ôl ar ôl i gyflwr eu mab pump oed waethygu pan gafodd ei barlysu o’r gwddf i lawr.

Fisa am bedair wythnos oedd ganddyn nhw pan ddaethon nhw i Gymru gyntaf, ond fe fu’n rhaid iddyn nhw aros yn sgil cyflwr eu mab.

Mae Ashar, ei frawd saith oed, mewn cartref i blant amddifaid yn eu mamwlad, ac maen nhw’n ceisio codi arian i’w gludo i Gymru fel y gall fod gyda’i frawd Shahryar a Zoha, ei chwaer dwy oed.

‘Calon drom’ y teulu

“Dywedon nhw wrthon ni fod gyda ni well obaith o gael fisa pe baen ni’n gadael ein plentyn hynaf ar ôl,” meddai Rasheed Amin.

“Roedden ni’n bryderus ond roedden ni’n rhoi bywyd ein plentyn sâl mewn perygl gyda phob diwrnod aeth heibio felly fe wnaethon ni hynny gyda chalon drom iawn.

“Roedd yn benderfyniad anodd dros ben, yn fater o fyw neu farw.

“Ond ar ôl i ni gyrraedd a darganfod fod rhaid i ni aros, aeth mam fy ngwraig yn sâl a doedd hi ddim yn gallu gofalu am Ashar rhagor ac fe gafodd ei roi mewn cartref.

“Dw i a fy ngwraig yn wylo bob nos.”

Cais am loches

Mae’r teulu bellach yn gwneud cais am loches ac yn codi arian i brynu fisa i Ashar ar ôl iddyn nhw wario eu holl arian ar driniaeth feddygol Shahryar.

Mae gan Zoha yr un cyflwr bellach ac mae pryderon y gall fod ag Ashar hefyd ac y gallai farw oni bai ei fod e’n bwyta’r bwydydd cywir.

Mae Jo Stevens, yr aelod seneddol lleol, yn trafod y sefyllfa â’r Swyddfa Gartref yn y gobaith y gall Ashar ddod i Gymru heb orfod talu ffioedd ychwanegol.

Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.