Mae rhybuddion oren a melyn i rannau helaeth o Gymru heddiw wrth i Storm Dennis daro’r wlad yn ystod y dydd.

Gallai hyd at 120mm o law gwympo, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud bod llifogydd yn debygol.

Mae rhybudd oren mewn grym mewn 16 o ardaloedd yn sgil glaw trwm, a rhybudd melyn i Gymru gyfan o ganlyniad i wyntoedd cryfion.

Gallai llifogydd effeithio ar gartrefi a busnesau, yn ogystal â chreu amodau gyrru gwael a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Mae’r rhybudd oren mewn grym rhwng 12 o’r gloch (canol dydd) hyd at 3 o’r gloch prynhawn fory (dydd Sul, Chwefror 16).

Mae’r rhybudd melyn mewn grym o 10 o’r  gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 15) hyd at 12 o’r gloch (canol dydd) ar ddydd Sul (Chwefror 16).