Mae’r heddlu yn Abertawe’n chwilio am Jessica Green, dynes 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr.

Does neb wedi ei gweld hi ers dydd Mawrth (Chwefror 11).

Mae hi’n 5’1″, ac mae ganddi wallt golau ac mae hi o gorffolaeth denau.

Cafodd hi gweld ddiwethaf yn nhref Port Talbot, lle’r oedd hi’n gwisgo siaced Adidas ddu â streipiau gwyn.

Mae ganddi gysylltiadau yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a’r gorllewin.

Mae’n bosib ei bod hi’n teithio mewn Audi A3 lliw du.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.