Mae disgwyl llifogydd peryglus mewn rhannau o Gymru dros y penwythnos, wrth i Storm Dennis chwyrlïo ledled wlad.

Bydd dau rybudd tywydd mewn grym ddydd Sadwrn, gyda rhybudd tywydd oren am law yn para hyd at ddydd Sul.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan llifogydd uchel a fydd yn “peryglu bywydau” ac yn achosi difrod i gartrefi a busnesau.

Mae hefyd disgwyl i bobol golli eu cyflenwadau pŵer, ac mi allai gyrwyr wynebu amodau heriol.

Daw hyn oll yn sgîl Storm Ciara a achosodd lifogydd yn rhannau o’r wlad, a gwyntoedd cryfion hyd at 93 milltir yr awr.