Fe fydd S4C yn lansio amserlen newydd wythnos i ddydd Llun, a’r newid mwyaf yw bod y rhaglen Newyddion am gael ei dangos yn gynharach gyda’r nos.

Dan y drefn newydd mi fydd y rhaglen newyddion hanner awr yn cael ei dangos am 7.30 y nos, yn hytrach nag am naw fel sydd wedi bod ers blynyddoedd maith.

Yn ôl y Sianel Gymraeg Mae’r newidiadau i’r amserlen yn dilyn sawl cyfarfod gyda gwylwyr, a hynny mewn grwpiau ffocws a nosweithiau gwylwyr ledled y wlad.

Dywedodd Amanda Rees: “Ry’n ni wedi holi ein gwylwyr am ba gyfresi maen nhw’n mwynhau fwyaf a phryd maen nhw am eu gwylio. Atebion y gwylwyr i’r cwestiynau yma sydd wrth wraidd y newidiadau i’n hamserlen rhaglenni newydd.

“Y bwriad yw creu patrwm mwy cyson i’n cynnwys bob nos, gan roi sylfaen cadarn i rai o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C tra hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni ddangos cyfresi newydd mewn slot darlledu hwyrach. Ni’n gobeithio ein bod ni wedi gwneud S4C yn ddewis haws i wylio, i bawb.”

Yr amserlen newydd

  • Newyddion – nos Lun i Gwener am 7.30
  • Pobol y Cwm – nos Lun i Iau am 8.00 gyda rhifyn estynedig ar nos Fercher
  • Rownd a Rownd – nos Fawrth ac Iau am 8.25
  • Ffermio – yn symud i 9.00 ar nos Lun
  • Cyfresi cyfarwydd a newydd am 9.00 o nos Lun i nos Iau gan ddechrau gyda Corau Rhys Meirion, Ysgol ni: Maesincla, Cynefin a Jonathan.
  • Chwaraeon byw ar nos Wener
  • Rhaglen ychwanegol o Heno yn fyw ar Nos Sadwrn am 7.30 (sydd eisoes wedi dechrau ar 8 Chwefror).