Llys y Goron Abertawe
Mae dyn o Gwm Gwendraeth yn un o dri llofrudd sy’n apelio yn erbyn dedfrydau am ladd eu gwragedd.

Maen nhw’n hawlio bod eu sefyllfa wedi newid ers cyflwyno deddf newydd ym maes llofruddiaeth a dyn laddiad.

Dewi Evans, cyn löwr 62 oed o Bontyberem, yw un o’r tri – roedd wedi ei gael yn euog o lofruddio’i wraig mewn ffrae.

Ar y pryd, roedd wedi pledio’n ddieuog i lofruddiaeth ond yn euog i ddynladdiad, gan ddweud ei fod wedi colli rheolaeth arno’i hun tros dro.

Yn awr, mae’n apelio dan y ddeddf newydd sydd wedi newid y ddadl tros ddynladdiad i gynnwys “colli rheolaeth”.

Y cefndir

Roedd Dewi Evans wedi trywanu ei wraig, Jackie, 57 oed, yn eu cartref ym Mhontyberem ac fe gafodd ei ddyfarnu’n euog yn Llys y Goron Abertawe.

Mae’r Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Judge, a dau farnwr arall bellach yn ystyried yr apêl a chais i “ddehongli” y gyfraith newydd.

Y disgwyl yw y bydd y gwrandawiad yn para deuddydd ond y bydd rhaid aros peth amser am ddyfarniad.