Protest yn erbyn toriadau
Merched yw mwy na dwy ran o dair o’r gweithwyr cyngor sir sydd wedi colli eu gwaith yng Nghymru ers yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl undeb gweithwyr cyhoeddus y GMB, mae hynny’n golygu caledi mawr i lawer o deuluoedd ac yn arbennig i deuluoedd un rhiant.

Mae’r undeb wedi defnyddio ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol i ddangos bod merched yn diodde’n waeth na dynion oherwydd toriadau gwario’r Llywodraeth.

Cymru’n uwch

Mae’r ffigurau i Gymru’n dangos fod mwy na 7,000 o bobol wedi colli eu gwaith gyda chynghorau Cymru a bod bron 5,000 yn ferched – 69.8%.

Mae hynny’n uwch na’r cyfartaledd trwy Gymru a Lloegr ac, yn ôl yr undeb, roedd hi’n amlwg y byddai merched yn diodde’n waeth na dynion oherwydd fod mwy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol.

Trwy Gymru a Lloegr, roedd bron 130,000 o swyddi wedi mynd mewn cynghorau lleol ers mis Mai 2010 ac roedd bron 86,000 yn ferched.

‘Achosi caledi’

Y Llywodraeth yn Llundain oedd yn gyfrifol am y colli swyddi, meddai’r undeb, a hynny trwy eu toriadau gwario.

“Mae llawer o deuluoedd yn dibynnu ar gael dau gyflog i dalu morgeisi a biliau’r cartref,” meddai ysgrifennydd yr undeb ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, Brian Strutton.

“Fe fydd yr effaith yn waeth fyth i’r chwarter o deuluoedd lle mae plant a rhiant sengl, a 90% o’r rheiny’n ferched.”