Mae Neil McEvoy wedi wfftio’r honiad y bydd ei blaid newydd, The Welsh National Party (WNP), yn rhannu’r bleidlais genedlaetholgar.

Bydd y blaid yn sefyll tros “sofraniaeth” ac yn cael ei lansio ym mis Ebrill, ac mae pryderon eisoes wedi’u codi y bydd yn tanseilio Plaid Cymru trwy dynnu pleidleisiau oddi wrthyn nhw.

“Does dim pleidlais i’w rhannu,” yw ei farn yntau, ac mae’n tynnu sylw at fethiant y Blaid i ennill seddi tu allan i’w chadarnleoedd yn etholiad 2019.

Mae’n honni bod eisoes gan y WNP gefnogaeth y tu allan i’r Fro Gymraeg, yn ne ddwyrain Cymru.

“Rhaid i mi bwysleisio bod ein tîm yn ei le – ac wedi tyfu – yng Nghaerdydd,” meddai wrth Golwg. “Yng ngorllewin Caerdydd wnaethom dreblu’r bleidlais – mwy na hynny o 1999.

“Yr unig le arall lle mae’r bleidlais wedi cynyddu i’r Blaid yw Blaenau Gwent. Ym mhob man arall mae wedi cwympo yn ôl.

“Beth wnawn ni yw cyflwyno ein Fairwater formula i weddill y wlad…”

Cynrychioli

Mae Neil McEvoy wedi cynrychioli ward Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd ers blynyddoedd maeth, ond mae wedi ei wahardd am rhai misoedd yn sgil achos disgyblu.

Mae wedi sefyll tros Blaid Cymru yng ngorllewin Caerdydd tros Blaid Cymru mewn tri etholiad Cynulliad yn olynol.

Derbyniodd y Blaid 10,205 pleidlais yn yr etholiad diweddaraf yn 2016, a 3,402 yn etholiad 1999 – cyn i Neil McEvoy sefyll yno.

WNP am “ddenu pawb”

Mae’r cais am enw Cymraeg yr WNP, ‘Plaid Genedlaethol Cymru’, wrthi’n cael ei ystyried gan y Comisiwn Etholiadol.

Enw gwreiddiol Plaid Cymru yw’r enw hwn, ac mae Neil McEvoy yn dweud eu bod wedi colli’r “monopoli” drosto yn sgil eu perfformiad yn etholiad cyffredinol y llynedd.

“Rydym wedi gweithredu’n briodol, a ni yw’r blaid genedlaethol Gymreig,” meddai. “Plaid Genedlaethol Cymru – ni yw hynna. Dyna fe. Dyna rydym ni’n ei gynrychioli.”

Mae’n dweud mai’r “broblem ar hyn o bryd yw bod y bleidlais genedlaetholgar wedi’i chyfyngu ac mae’n gul iawn.”

Ac mae’n ategu bod “apêl Plaid Cymru, go iawn, gyda siaradwyr Cymraeg, dosbarth canol, gwyn” tra bod y Welsh National Party yn gobeithio “denu pawb”.

Neil McEvoy a Phlaid Cymru

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd o Blaid Cymru ym mis Mawrth 2018 am – yng ngeiriau’r Blaid –   “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.

Mae Plaid Cymru wedi derbyn cais am ymateb. Gallwch ddarllen rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.