Mae cwest wedi clywed bod Keith Morris, y ffotograffydd adnabyddus o Aberystwyth, wedi cymryd ei fywyd ei hun ar ôl honiadau o droseddau rhyw.

Daeth ei farwolaeth ddyddiau’n unig ar ôl cael ei arestio a’i gyfweld gan yr heddlu am droseddau rhyw honedig.

Cafwyd hyd i’w gorff ar draeth rhwng Borth ac Ynys Las ar arfordir Ceredigion, ddydd Sadwrn, Hydref 5 y llynedd gan redwr ar y traeth.

Roedd ei wraig, Gillian Thomas wedi hysbysu’r heddlu ei fod ar goll ar y prynhawn Gwener (Hydref 4).

Clywodd y crwner Peter Brunten ei fod e wedi cael ei gyfweld gan Heddlu Dyfed Powys ddiwedd Medi 2019 yn dilyn honiadau o droseddau rhyw, ond roedd yn gwadu’r honiadau ac fe gafodd ei ryddhau.

Yn ôl ei wraig, roedd yr honiadau wedi bod yn pwyso arno ac roedd wedi bod yn ymchwilio i weld pa fath o effaith fyddai achos llys o’r fath yn ei gael ar ei deulu.

Clywodd y cwest sut yr oedd wedi dweud wrthi y byddai bywyd yn haws iddyn nhw i gyd petai e ddim yno mwyach.

Nodyn a fideo

Roedd y ffotograffydd wedi gadael nodyn i’w deulu yn gofyn iddyn nhw beidio anghofio amdano, yn ogystal â fideo yn ymddiheuro iddyn nhw a dweud ei fod yn eu caru.

Doedd gan y crwner yr un amheuaeth fod Keith Morris wedi bwriadu cymryd ei fywyd ei hun, meddai, a’i fod e “o dan straen aruthrol.”

Dyfarnodd y crwner Peter Brunten farwolaeth drwy hunanladdiad, gan ddweud bod Keith Morris wedi boddi.