Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau ar gyfer cynllun i weddnewid hen neuadd y farchnad yn Llandeilo, a’r gobaith yw creu 45 o swyddi newydd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn disgwyl i’r prosiect gychwyn yn gynnar yn 2020, gan greu canolbwynt arloesol i fusnesau gwledig gyda mannau ar gyfer busnesau gwledig bach a chanolig ac academi mentrau gwledig newydd.

Mae’n rhan o gynllun adfywio gwledig y Cyngor i gefnogi a chryfhau economi wledig. Caiff hyd at 45 o swyddi eu creu trwy wneud defnydd unwaith eto o’r adeilad.

Yn ogystal â darparu man i fusnesau, bydd y neuadd hefyd ar gael i’w llogi gyda mannau hyblyg ar gyfer digwyddiadau a marchnadoedd, a bydd yno gaffi bychan.

“Rydym am gefnogi busnesau lleol a datblygu canol ein trefi gwych – a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu cyfleoedd gwaith allan o eiddo gwag a denu mwy o bobl i’r dref – gan gynyddu nifer yr ymwelwyr,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Edrych ymlaen

Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd £1.4 miliwn yn cael ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud defnydd newydd o’r adeilad hanesyddol, rhestredig Gradd II.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith o wneud defnydd unwaith eto o’r adeilad rhestredig hanesyddol hwn,” meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio.

“Mae ein tîm datblygu economaidd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau cyllid allanol i gyflawni’r prosiect, a bydd yn hwb economaidd y mae angen mawr amdano yn un o’n prif drefi gwledig.

“Bydd y man hwn yn golygu y gall mwy o fusnesau dyfu a ffynnu gyda chyfleusterau modern, pwrpasol i weithio a chydweithio.”