Mae Lesley Griffiths yn dweud ei bod yn “hanfodol” cynnal ymchwiliad yn dilyn llifogydd mewn sawl cymuned yn y gogledd yn sgil Storm Ciara.

Dywed Gweinidog yr Amgylchedd y bydd hi’n ymweld â’r cymunedau hynny ddiwedd yr wythnos, gan “gydymdeimlo’n fawr â’r sawl sydd wedi’u heffeithio”.

Mewn datganiad, mae’n diolch i’r awdurdodau fu’n cynnig cefnogaeth i gymunedau Llanrwst, Llanfair Talhaearn, Trefriw, Dinbych, Bae Colwyn a Llanelwy.

Mae’n dweud bod buddsoddi mewn amddiffynfeydd yn y gorffennol yn golygu nad oedd y llifogydd “mor eang ag a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf”, a bod hynny’n “arwydd o sut mae ein buddsoddiad mewn rheoli risg llifogydd… yn helpu i warchod cartrefi pobol”.

“Mae’n hanfodol ymchwilio i’r llifogydd a ddigwyddodd, a dysgu gwersi er mwyn gwarchod ein cymunedau ymhellach,” meddai.

“Mater i’r awdurdodau lleol nawr yw ymchwilio ac adrodd am eu canlyniadau a’u hargymhellion, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid eraill.

“Dw i’n deall fod Conwy a Sir Ddinbych eisoes yn paratoi eu hymchwiliadau.”

Mae’n dweud ei bod hi’n barod i ystyried ceisiadau am nawdd i gefnogi gwaith adfer ac i leihau’r risg fod llifogydd yn digwydd eto.

‘Rhaid dangos ymrwymiad i wario a gweithredu’

 Wrth ymateb i’r datganiad, dywed Huw Prys Jones, Maer Llanrwst fod angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i “wario a gweithredu”.

“Mi fydd trigolion a busnesau Llanrwst yn falch o’r cyfle i drafod eu pryderon efo’r Gweinidog fel ei bod yn gweld drosti ei hun faint y difrod,” meddai.

“Ond mi fydd yn rhaid iddi hefyd ddangos ymrwymiad i wario a gweithredu oherwydd fydd geiriau gwag yn dda i ddim i neb.”